Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA(4)-21-13:
CLA301 - Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2012
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r trefniadau ar gyfer defnyddio hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer absenoldeb o'r ysgol yn rheolaidd.
Gweithdrefn: Negyddol
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-
1. Mae'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wedi cynnal ymchwiliad yn ddiweddar i effeithiolrwydd polisi a chanllawiau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo presenoldeb ac ymddygiad cadarnhaol yn y ddarpariaeth addysg i blant o oedran ysgol gorfodol. Mae adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn cyfeirio at hysbysiadau cosb benodedig mewn cysylltiad ag addysg, ac yn gwneud argymhellion mewn perthynas â'r hysbysiadau hynny. Mae linc i adroddiad y Pwyllgor yn amgaeedig. http://www.senedd.cynulliadcymru.org/documents/s19651/Report%20-%20August%202013.pdf
(Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.)
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Awst 2013
Ymateb y Llywodrawaeth:
Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013
Diolch i chi am eich adroddiad OS drafft mewn cysylltiad â Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013.
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wedi anfon copi ataf o Adroddiad y Pwyllgor ar yr Ymchwiliad i Bresenoldeb ac Ymddygiad. Byddaf yn ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor a byddaf yn fwy na pharod i anfon copi o’r ymateb hwnnw atoch chi.